| Intro | Welsh actor |
| Is | Actor |
| From | United Kingdom |
| Type | Film, TV, Stage & Radio |
| Gender | male |
| Birth | 10 June 1976 |
| Age: | 44 years |
| Star sign | Gemini |
Actor a chyfarwyddwr Cymreig yw Lee Haven Jones (ganwyd 10 Mehefin 1976).
Bywyd cynnar
Ganwyd a magwyd Lee Haven-Jones yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf. Fe astudiodd ym Mhrifysgol Caerwysg gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Drama ac enillodd Ysgoloriaeth Cameron Mackintosh i astudio actio yn RADA.
Gyrfa
Roedd yn chwarae rôl Emyr Tomos ar y rhaglen ddrama Caerdydd rhwng 2006 a 2010.
Cyfarwyddodd am y tro cyntaf yn 2009 ar y rhaglen ddogfen Dad a fi, a enwebwyd am y Ddogfen Gorau yng Ngŵyl Gyfryngau Celtaidd. Ers hynny mae wedi cyfarwyddo ar The Indian Doctor, Pobol y Cwm, Casualty, Wizards vs Aliens a Waterloo Road. Roedd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd y ddrama Tir, sawl pennod o Alys a prif gyfarwyddwr ar yr ail gyfres o 35 Diwrnod.
Mae’n gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu teledu Joio.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Lee Haven-Jones ar yr Internet Movie Database
- Gwefan Swyddogol
- Cyfrif Twitter
- Cwmni cynhyrchu Joio