| Intro | Welsh actor, producer and television presenter |
| Is | Actor |
| From | Wales |
| Type | Film, TV, Stage & Radio |
| Gender | male |
Actor, cynhyrchydd a cyflwynydd teledu Cymreig ydy Iestyn Garlick. Mae’n adnabyddus am ei gymeriad ‘Jeifin Jenkins’ a oedd yn cyflwyno nifer o raglenni plant ar S4C yn cynnwys HAFoc, Jeifin a Jeifin yn bobman.
Bywyd cynnar
Fe anwyd Iestyn Garlick yn Nazareth House, Abertawe yn y 1950au, yn blentyn i Mary Rose Donnelly, gyda’r enw Kevin Donnelly. Rhai misoedd yn ddiweddarach fe gafodd ei fabwysiadu gan y bardd Raymond Garlick a’i wraig Elin.
Gyrfa
Roedd yn aelod o’r grŵp Ac Eraill a perfformiodd yn yr opera roc Nia Ben Aur.
Yn y 1970au cyflwynodd y sioe gerddoriaeth Twndish. Bu’n cyflwyno ar y rhaglen i blant HAFoc fel ei gymeriad Jeifin Jenkins. Roedd yn un o’r cyflwynwyr gwreiddiol ar y rhaglen gylchgrawn Heno yn 1990. Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys y sioeau cwis Hollol Bananas, Cwist a Sgrin Ti Syniad a’r rhaglenni adloniant Traed Oer, Gemau Heb Ffiniau a Penwythnos Mawr.
Mae’n un o sefydlwyr cwmni cynhyrchu teledu Antena.
Actiodd yn y ffilm Madam Wen (1982) a’r cyfresi teledu Eye of the Dragon (1987) a The Life and Times of David Lloyd George (1981).. Mae’n chwarae rhan y prifathro ‘Jim Gym’ yn y gyfres deledu Rownd a Rownd.
Mae hefyd wedi bod yn gyhoeddwr cyn gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Iestyn Garlick ar wefan Internet Movie Database