Gregory Sais’s biography, net worth, fact, career, awards and life story

Intro Welsh soldier
Is Soldier 
From Wales 
Type Military 
Gender male

Milwr Cymreig oedd Syr Gregory Sais neu Grigor Sais (bu farw 1390) a fu’n ymladd dros frenin Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd ac yn yr Alban. Roedd yn frodor o Sir Fflint ac yn ôl pob tebyg yn fab i Cynwrig Sais ap Ithel Fychan, ac felly’n ddigynnydd i Ednyfed Fychan. Fel yn sawl enghraifft arall mewn enwau personol o’r cyfnod, e.e. y bardd Elidir Sais, mae’r llysenw “Sais” yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn medru’r Saesneg yn hytrach na’i fod yn Sais.

Bywgraffiad

Ceir y cofnod cyntaf amdano fel milwr pan ddisgrifir ef fel capten Beaumont-le-Vicomte ym Maine yn 1360. Ym mis Mawrth 1373, roedd yn aelod o fyddin Seisnig oedd yn ceisio codi gwarchae Chizé yng ngorllewin Ffrainc, ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Ffrengig oedd yn cynnwys Owain Lawgoch. Dano ef y cafodd Owain Glyndŵr ei brofiad milwrol cyntaf, fel aelod o garsiwn Berwick-upon-Tweed yn 1384.

Cyfeiriadau

Dolen allanol

  • Hanes Gregory Sais o www.medievalsoldier.org
You May Also Like