Esyllt Sears’s biography, net worth, fact, career, awards and life story

Intro Welsh stand-up comedian
Is Professor 
Educator 
Writer 
Comedian 
Stand-up comedian 
From United Kingdom 
Type Academia 
Entertainment 
Humor 
Literature 
Gender female
Birth March 1981, Aberystwyth, United Kingdom
Age: 39 years

Mae Esyllt Mair Sears (ganwyd Mawrth 1981) yn gomedïwr ac ymgynghorydd busnes. Magwyd hi ym Mhenrhyn-coch a Bow Street, Ceredigion ac mae bellach yn byw ym Mro Morgannwg.

Bywgraffiad

Magwyd Esyllt Mair Dafydd ym mhentref Bow Street, gan fynychu Ysgol Gynradd Rhydypennau ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n briod a chanddi ddau o blant. Symudodd hi a’i gŵr, sy’n ddi-Gymraeg, o Lundain i Gymru fel bod modd magu’r plant yn Gymraeg ac iddynt dderbyn addysg Gymraeg, sy’n “bwysig iawn” iddi.

Mae’n ddarlithydd rhan amser yn Athrofa Busnes a Chymdeithas Prifysgol De Cymru a gyda Prifysgol Fetropolitan Caerdydd trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.

Mae hi hefyd yn golofnydd i bapur misol Y Cymro.

Gyrfa Comedi

Daeth ar restr ‘Rhai i’w Gwylio’ menywod mewn comedi (allan o 400 o gomediwragedd eraill) yng nghystadleuaeth Funny Women yn 2017. Mae’r gystadleuaeth yno i geisio hybu rhagor o fenywod i fentro i fyd comedi.

Ers hynny mae wedi gwneud setiau comedi yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 gyda pherfformwyr eraill megis Hywel Pitts a Jâms Thomas. yn Eisteddfod Caerdydd lle bu’n rhan o’r gig gomedi gyntaf gan ferched yn unig yn y Gymraeg, ac yn ei thref enedigol, Aberystwyth ac fel rhan o Ŵyl Gomedi Aberystwyth a sesiynau comedi yn Lloegr.

Dolenni

  • Esyllt Sears ar Twitter
  • Cyfweliad o Eisteddfod Caerdydd 2018

Cyfeiriadau

You May Also Like