Dan Thomas’s biography, net worth, fact, career, awards and life story

Intro Welsh comedian
Is Comedian 
Stand-up comedian 
From United Kingdom 
Type Entertainment 
Humor 
Gender male
Birth 1980, Swansea, United Kingdom
Age: 40 years
Residence Cardiff, United Kingdom

Digrifwr yw Dan Thomas (ganed yn 1980) sy’n perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n arbenigo mewn comedi stand-yp ond mae hefyd yn ysgrifennu dramâu ac yn perfformio mewn meysydd eraill.

Bywgraffiad

Ganwyd Dan yn 1980 a magwyd ef yn Abertawe gan fynychu Ysgol Gyfun Gŵyr – mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn ôl ei set llwyfan, magwyd ef mewn teulu cenedlaetholaidd iawn oedd yn cefnogi Cymru annibynnol a mudiadau gweriniaethol. Mae’n gefnogol iawn i’r Gymraeg ac yn perfformio setiau yn yr iaith. Mae hefyd wedi cymryd rhan yn nosweithiau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan fudiad Yes Cymru. Er hyn, dydy ei set ddim yn dueddol o fod yn or-wleidyddol.

Gyrfa

Dechreuodd berfformio comedi stand-yp yn 2005 gan ddod yn gomedïwr llawn amser yn 2010.

Cyrhaeddodd rownd derfynol y Welsh Unsigned Stand Up Awards 2010 a gwobrau cylchgrawn ‘Loaded’ y LAFTAS 2010. Ef oedd enillydd cyntaf erioed cystadleuaeth Dog Eat Dog Stand Up De Cymru.

Mae wedi perfformio ar draws Prydain mewn lleoliadau bri-uchel megis, y Glee Club, Highlights, The Comedy Store, Komedia ac mewn amryw o ŵyliau comedi gan gynnwy Gŵyl Gomedi Machynlleth a Gŵyl y Green Man.

Yn 2011, dewiswyd Dan i gefnogi Russell Kane ar ei daith Brydeinig gyda sioe enillydd Gwobr Perrier, “Smokescreens and Castles” ac ar daith arall Russell, “Manscaping”.

Mae wedi perfformio yn y Gymraeg mewn nosweithiau gyda comedïwyr eraill fel Phil Cooper , ar gyfres gomedi Gwerthu Allan ar S4C, ar Radio Cymru ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Teledu

  • Deal or No Deal – gweithio fel artist ‘twymo’r tŷ’ sy’n cael cynulleidfa mewn hwyliau da cyn dechrau ffilmio rhaglen, ar gyfer sawl sioe
  • Houseguest – ar ITV
  • Funny Business ar BBC Wales
  • Gwerthu Allan – cyfres 2 ar S4C

Radio

  • The Rhodri Williams Show – ar BBC Radio Wales
  • What’s The Story? – cynhyrchiad BBC Radio Wales/Tidy Productions).
  • Chaos at the Glee Club (Goldrush Productions)
  • The World of Acting (Clare Sturges Productions)

Llwyfan

Mae wedi ysgrifennu drama And The Killer Is… a oedd yn sioe a werthodd bob tocyn yn 2010.

Dolenni allanol

  • Gwefan Swyddogol
  • Sianel Youtube Dan Thomas
  • Dan Thomas ar Twitter
  • Clip o routine ‘Dog Orgasm Guy’

Cyfeiriadau

You May Also Like